Bydd y cerddor gwerin amryddawn, Gwilym Bowen Rhys, yn mynd a chaneuon ei albwm diweddaraf ar daith theatrau ddiwedd mis Mehefin eleni.
Arenig ydy trydydd albwm unigol Gwilym, oedd yn aelod o’r grŵp poblogaidd Y Bandana, a sydd hefyd yn aelod o Plu gyda’i ddwy chwaer, Marged ac Elan.
Rhyddhawyd Arenig yn wreiddiol ar 1 Mehefin 2019 ar label Recordiau Erwydd.
Mae natur cerddoriaeth, a chymeriad Gwilym yn golygu ei fod yn gigio’n gyson mewn lleoliadau mawr a bach, ac yn aml iawn mewn amgylchiadau digon anffurfiol. Er hynny, bydd tipyn mwy o ffurfioldeb yn perthyn i’r daith sydd newydd ei chyhoeddi wrth i’r canwr ymweld â phedair o theatrau Cymru.
Dyma fanylion y dyddiadau a lleoliadau’n llawn:
25 Mehefin – Theatr y Glowyr, Rhydaman
26 Mehefin – Neuadd Ogwen, Bethesda
27 Mehefin – Theatr Derek Williams, Y Bala
28 Mehefin – Clwb y Bont, Pontypridd
Mae Gwilym hefyd yn adnabyddus am deithio dramor, a chydweithio gyda cherddorion o wledydd eraill. Nid yw’n syndod felly ei weld yn cael ei gefnogi ar y daith gan y ddeuawd Albanaidd / Sganinafaidd, Marit a Rona.