Bydd Tapestri yn rhyddhau fersiwn Saesneg o’u sengl gyntaf, ‘Y Fflam’, ar 25 Medi.
‘Open Flame’ ydy enw’r fersiwn newydd o’r trac a ryddhawyd yn wreiddiol yn y Gymraeg ar 25 Gorffennaf ac mae’n cael ei ryddhau ar label Shimi.
Tapestri ydy enw partneriaeth gerddorol newydd Lowri Evans a Sera Zyborska, sy’n enwau cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn bellach. Mae Sera, sy’n dod o Gaernarfon, a Lowri, sydd o Drefdraeth yn Sir Benfro, wedi cael cryn lwyddiant yn perfformio a rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg dros y blynyddoedd.
Cyfarfu’r ddwy gantores brofiadol am y tro cyntaf yn Llydaw llynedd wrth iddynt berfformio ym Mhafiliwn Cymru yng ngŵyl enwog Lorient fis Awst. Sbardunodd y cyfarfod hwnnw’r syniad o ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth.
Y nod ydy creu band Americana a fyddai’n gallu perfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod. Maent wedi’i hysbrydoli’n arbennig gan The Highwomen, sef ‘supergroup’ o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad. Mae eu caneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, ‘Roots’, Gwerin a Gwlad.
Er gwaethaf argyfwng Covid-19, a’r pellter daearyddol rhwng y ddwy gantores, maent wedi llwyddo i ddal ati i gyd-weithio ar ganeuon Tapestri. .
Cafodd ‘Y Fflam’ dderbyniad cynnes nôl ym mis Gorffennaf, gan gynnwys cael ei dewis fel ‘Trac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru. Dewiswyd Tapestri hefyd fel un o’r chwech artist o Gymru yn y digwyddiad byd-eang cyntaf o ‘Global Music Match’.
Bydd Tapestri hefyd yn perfformio fel rhan o fersiwn digidol Gŵyl FOCUS Wales, sef ‘Out of Focus’, sy’n digwydd ar ddiwedd mis Medi. Bydd cyfle i’w gweld yn perfformio’n fyw ar 26 Medi – set fydd yn cynnwys caneuon o’r EP cyntaf sydd ar y gweill ac allan yn fuan.