Mae’r grŵp Dienw wedi recordio fersiwn acwstig o’u sengl ‘Targed’ fel sesiwn ar gyfer cyfres deledu Lŵp.
Cyhoeddwyd y fideo o’r sesiwn ar lwyfannau digidol Lŵp ddydd Gwener diwethaf, 9 Hydref.
Teg dweud bod cynulleidfaoedd wedi arfer gweld setiau byw llawer trymach gan Dienw, ond mae’r fersiwn acwstig yn gyfle i werthfawrogi’r alawon, riffs a rhythmau bachog sy’n gwneud y grŵp mor boblogaidd.