Mae Teleri wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Tymhorau’, ers dydd Sul 1 Tachwedd.
Dyma’r ddiweddaraf o gyfres o senglau sydd wedi eu rhyddhau’n rheolaidd yn ystod 2020 gan y gantores electronig.
Daeth Teleri i’r amlwg gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn gan ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Euraidd’ ym mis Ionawr.
Ers hynny mae wedi rhyddhau cyfres o senglau sef ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill, ‘Hawdd’ ym mis Gorffennaf, ‘Haf’ ar ddechrau mis Awst, ‘Gola’ ar 1 Medi a ‘Tywod’ ar 1 Hydref.
Mae’r sengl newydd, fel y rhai blaenorol, ar gael yn ddigidol ar ei safle Bandcamp, ond roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar ddydd Mercher diwethaf, 28 Hydref.
Enw’r trac diweddaraf gan y gantores electronig addawol ydy ‘Tywod’ a bydd yn cael ei rhyddhau ar ei safle Bandcamp.
‘Tymhorau’ ydy’r seithfed trac i Teleri ryddhau eleni ac mae’n cadw at ei brand o gerddoriaeth dawns electronig disglair ac upbeat.