Thallo ac Ifan Dafydd yn cyd-weithio ar sengl newydd

Mae’r cynhyrchydd electroneg Ifan Dafydd wedi cyd-weithio â’r gantores Thallo i ryddhau sengl sydd allan ers dydd Gwener 14 Awst.

‘Aderyn Llwyd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac mae’n gyfieithiad o gân wreiddiol gan Gallagher & Lyle, sef ‘The Sparrow’. Cyfieithwyd y gân i’r Gymraeg gan Gwyn Davies, ac fe’i pherfformiwyd gyntaf gan y gantores enwog Mary Hopkin ac un o’i recordiau cynnar.

Mae’r fersiwn newydd yn cael ei chyflwyno mewn modd gwahanol iawn yn steil unigryw Ifan Dafydd, gyda llais arbennig Thallo, sef prosiect y gantores Elin Edwards.

Fersiwn ‘I Dy Boced’

Sefydlwyd y berthynas rhwng y ddau tua blwyddyn yn ôl wrth i Ifan ofyn am ganiatâd gan Elin i ail-gymysgu ei sengl ‘I Dy Boced’.

Ers hynny mae’r ddau wedi parhau i drafod a chreu cerddoriaeth gan greu’r fersiwn hon o ‘Aderyn Llwyd’ fel rhan o brosiect Sesiynau Tŷ BBC Radio Cymru. Maent hefyd wedi bod yn gweithio ar gân wreiddiol ganddynt hefyd.

Ar ôl ffrwydro ar y sin electronig ar ddechrau’r ddegawd, cafodd Ifan Dafydd rai blynyddoedd tawelach, ond mae wedi bod yn mwynhau cyfnod llewyrchus o greu a rhyddhau cerddoriaeth yn ddiweddar.

Hon fydd y drydedd cân i’w rhyddhau gan Ifan drwy label Recordiau Côsh gan ddilyn ei ail-gymysgiad o ‘Olion’ gan Carwyn Elis & Rio 18, ac wrth gwrs ‘I Dy Boced’ gan Thallo.

Cyn y cyfnod clo fe gyhoeddodd Recordiau Cosh y bydd Thallo yn rhyddhau ei senglau nesaf drwy’r label, a bydd y traciau hynny’n cael ei chymysgu a chwblhau pan fydd y cyfyngiadau presennol yn cael eu llacio.