Tocynnau ton cyntaf Maes B ar werth

Mae ton cyntaf tocynnau Maes B, Eisteddfod Tregaron, bellach ar werth.

Daw hyn ar ôl i docynnau ‘Bargen Cynnar’ Maes B werthu allan wythnos diwethaf.

Mae modd archebu’r tocynnau ar gyfer y gigs nosweithiol sy’n digwydd rhwng 5 a 9 Awst ar wefan Maes B nawr.

Mae tocyn 4 diwrnod yn costio £90 ac yn cynnwys gwersylla a mynediad i brif faes yr Eisteddfod Genedlaethol.