Mae’r gantores ifanc o Fôn, Tesni Hughes, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd ar y llwyfannau digidol arferol.
‘Rhai Sydd Ddim Adra’ ydy enw’r trac newydd gan Tesni a greodd dipyn o argraff gyda’i sengl ddiwethaf yn gynharach yn y flwyddyn.
Rhyddhawyd ‘Fflama i’r Tân’ nôl ym mis Mai ar ôl iddi ysgrifennu a recordio’r trac yn ei chartref yn ystod y clo mawr.
Efallai bydd Tesni’n gyfarwydd i rai fel aelod o ddau fand ifanc o’r Gogledd sef Aerobic ac Amharchus. Mae hefyd yn cyfansoddi a pherfformio’n unigol ers peth amser.
Hoffi ’dolig
Roedd ‘Fflama i’r Tân’ yn gân er cof am ei thaid a fu farw rai blynyddoedd yn ôl ac oedd yn berson arbennig iawn ym mywyd Tesni. Mae’r gân Nadolig yn perthyn yn agos i’w sengl gyntaf yn ôl y gantores.
“Yn wreiddiol, fel ‘Fflama i’r Tân’, nes i sgwennu hi er cof am fy nhaid blwyddyn diwethaf” eglura Tesni.
“O’n i’n meddwl fysa hi’n syniad da ei rhyddhau hi eleni oherwydd bod cymaint o bobl yn methu bod adref dros y Nadolig oherwydd y pandemig.
“All y gân fod am unrhyw un sydd ddim yma oherwydd marwolaeth, neu rywun sydd jyst yn methu bod adref oherwydd y sefyllfa.”
Bydd y gân yn taro tant gyda llawer o bobl wrth arwain at y Nadolig, a dywed y gantores ifanc ei bod yn hoff iawn â cherddoriaeth sy’n cael ei gysylltu â’r adeg yma o’r flwyddyn.
“Yndw, dwi’n licio miwsic Nadolig oherwydd ma’n dod ag egseitment i mi achos rhaid fi gyfadda dwi wrth fy modd efo ‘Dolig!
“Nes i recordio hi adra, yn ystod y lockdown diwethaf. Mi wnaethon ni droi’r ystafell sbâr i fod yn rhyw fath o stiwdio a stafell gerdd i mi, felly be well!”