Mae Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo o gân newydd gan Adwaith yn cael ei pherfformio gan eu prif ganwr, Hollie Singer.
‘Amser Codi Lan’ ydy enw’r trac, ac mae’r fideo o’r fersiwn acwstig ohoni wedi’i ffilmio yng ngardd gefn Hollie yn Grangetown, Caerdydd.
Mae Adwaith wedi manteisio ar gyfnod y cloi mawr i gyfansoddi llwyth o ganeuon ar gyfer eu halbwm nesaf, fydd yn ddilyniant i’r hynod llwyddiannus ‘Melyn’ a ryddhawyd yn 2018.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Amser Codi Lan’ sy’n rhoi cipolwg o’r hyn sydd i ddod: