Mae cantores ifanc addawol o Fôn, Tesni Hughes, wedi cyhoeddi trac unigol newydd ar ei safle Soundcloud wythnos diwethaf allai danio ei gyrfa unigol.
Bydd Tesni’n gyfarwydd i rai sy’n mynd i gigs yn rheolaidd yn y Gogledd-Orllewin gan ei bod yn aelod o ddau fand ifanc sef Aerobic ac Amharchus. Ond mae hefyd yn cyfansoddi a pherfformio’n unigol ac fe roddodd ei thrac unigol cyntaf, ‘Pell i Ffwrdd’ ar-lein gwpl o fisoedd yn ôl.
‘Fflama i’r Tân’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n gân er cof am ei thaid a fu farw rai blynyddoedd yn ôl ac oedd yn berson arbennig iawn ym mywyd y gantores.
“Enw’r gân ydy ‘Fflama i’r Tân’ a dwi ‘di ysgrifennu hi am fy nhaid” eglurodd Tesni wrth Y Selar.
“Nes i golli’n nhaid pan o’n i’n wyth oed ac mae o’n dal i effeithio arna’i rŵan. Felly fy ffordd i o ddelio gyda’r sefyllfa oedd sgwennu amdano fo.”
Deall y teimladau
Mae’n siŵr bydd yr alaw yn canu cloch i rai sydd wedi bod i gigs y band Amharchus, gan fod y gân wedi ymddangos yn set y grŵp, ond mae fersiwn newydd acwstig Tesni’m ymateb i’r sefyllfa rydan ni gyd yn wynebu ar hyn o bryd.
“Dwi fel arfer yn chwarae’r gân yn fyw gyda fy mand, Amharchus, ond heb gael y cyfle i recordio fel band felly mi wnes i ei rhyddhau’n acwstig.
“Mae’r gân yn golygu lot i mi oherwydd mae o wir yn cyfleu’r hyn dwi’n teimlo a dwi’n meddwl bydd llawer o bobl yn gallu deall y teimladau ar ôl colli rhywun sy’n agos iddyn nhw.”
Oherwydd y sefyllfa cloi lawr presennol bu’n rhaid i’r gantores 16 oed recordio’r trac ei hun gartref.
Dyma’r ail drac iddi gyhoeddi ar ei Soundcloud yn dilyn ‘Pell i Ffwrdd’ sy’n gân mwy bywiog yn cael ei chwarae ar y gitâr drydan.