Mae’r grŵp newydd sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru wedi llwyddo i recordiau a chyhoeddi cwpl o draciau newydd yn ystod y cyfnod yma o ynysu.
Hap a Damwain ydy enw prosiect newydd dau o aelodau’r grŵp Boff Frank Bough, oedd yn grŵp o Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd yn ystod y 1980au.
Ail-ffurfiodd y grŵp i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd ac ers hynny mae dau o’r aelodau wedi mynd ati i ddechrau’r prosiect newydd.
Aelodau Hap a Damwain ydy’r canwr Aled Roberts, sydd hefyd yn chwarae’r organ, a Simon Beech ar y gitâr a phopeth arall. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.
Rhyddhawyd EP o’r enw ‘Bws 10’ gan y grŵp yn ddigidol ar ddechrau mis Chwefror. Mae’r EP hwnnw ar gael ar safle Bandcamp y grŵp a’r llwyfannau digidol arferol.
Fideos Zoom
Yn hytrach na segura yn ystod y cyfnod diweddar o ynysu, mae’r aelodau wedi penderfynu mynd ati i fod yn gynhyrchiol.
Ddiwedd mis Mawrth fe wnaethon nhw ryddhau fideo ar gyfer y trac newydd ‘Methodist’ – fideo a ffilmiwyd gan ddefnyddio offer e-gyfarfod Zoom.
Yna wythnos diwethaf mae ail drac newydd, a fideo, wedi ymddangos ganddynt ar eu sianel YouTube, sef ‘Tŷ Baw’.
Wrth sgwrsio gyda’r Selar, mae’r grŵp wedi datgelu mai dim ond y dechrau ydy hyn, a gallwn ddisgwyl mwy o draciau newydd dros yr wythnosau nesaf.
Dyma fideo ‘Tŷ Baw’: