Nid llawer o gerddorion sy’n gallu bangio allan tri albwm mewn tair blynedd, ond dyna’n union mae Mark Roberts wedi’i gyflawni wrth iddo ryddhau record hir ddiweddaraf Mr ddydd Gwener yma.
Mae digon o drafod wedi bod ynglŷn â gyrfa gerddorol hir a llwyddiannus Mark. Go brin fod rhaid i ni restru ei fandiau blaenorol bellach, ond mae’n deg dweud bod Mr fel petai wedi rhoi egni newydd i’r cerddor o Ddyffryn Conwy.
Mae Feiral wrth gwrs yn ddilyniant i Oesoedd a ryddhawyd ym mis Hydref 2018 ac Amen a ddaeth flwyddyn union yn ddiweddarach. Wrth siarad gyda’r Selar dywed y cerddor bod yr albwm newydd, er yn dilyn y ddwy record yma, yn llai o ddilyniant iddyn nhw.
“Dwi’n gobeithio bydd pobl yn mwynhau’r ffaith bod yr albwm yn eitha’ sgitsoffrenig” meddai Mark.
“Yn sicr roedd Oesoedd ac Amen yn gymysgedd o arddulliau cerddorol, ond mae Feiral yn dipyn o siwrna’ hirach, heb fod yn siwrna’ ddiflas dwi’n gobeithio.”
Bydd y rhai craff yn eich mysg wedi sylwi ar y cysylltiad cynnil rhwng enwau dau albwm cyntaf Mr, ac unig albwm prosiect Cymraeg diwethaf y cerddor, Y Ffyrc, sef Oes. Oes…Oesoedd…Amen.
“Dim ond mewn enw oedd y tair arall yn perthyn os dwi’n onast” cyfaddefa.
“Cafodd Oes ei recordio dros ddeng mlynedd cyn Oesoedd. Fi oedd isio cadw rhyw fath o gysylltiad neu linyn rhyngddyn nhw.
“Mae Feiral yn fwy o record ar ben ei hun. Mae pobl yn gallu mynd yn obsessed efo trilogies, Mae’r term yn codi ofn arna’i, ac yn atgoffa fi o’r holl gachu prog rock ‘na nes i lwyddo i’w osgoi!”
Dal i ddysgu
Trioleg neu beidio, mae’n amhosib anwybyddu’r ffaith bod tri albwm llawn mewn tair blynedd yn dipyn o gamp, hyd yn oed i gerddor mor brofiadol â Mark Cyrff. Mae o’n amlwg yn gynhyrchiol iawn yn ddiweddar, ond beth sydd i’w gyfri am hynny?
“Dim ond yn y pum mlynedd diwethaf dwi ‘di dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni recordio” meddai’r gŵr oedd yn gyfrifol am gyfansoddi hits mwyaf Catatonia.
“Mae ‘na lot i ddysgu i rywun heb lawr o fynadd! Ond unwaith o’n i’n deall sut i ‘neud, mae o basically yn recording studio yn dy laptop a’r cwbl ti angen ydy’r syniadau cerddorol a ti off.
“Mae rhai yn deud ‘tydi o ddim yn rocket science’, ond i fi, mae o’n llawer mwy cymhleth na hynny.”
One liner clasurol arall i gasgliad hirfaith Mark Roberts, a’r peth arall mae’r bachgen o Lanrwst yn adnabyddus am ei gasglu ydy caneuon bachog sy’n dod yn ffefrynnau ar y tonfeddi. ‘Y Pwysau’ oedd sengl gyntaf Mr ychydig dros ddwy flynedd yn ôl – hit mawr yn y cyd-destun cerddoriaeth Gymraeg, ac a gafodd groeso cynnes yn syth. Ym mis Medi, rhyddhawyd sengl gyntaf yr albwm newydd, ‘Bregus’, fel blas cynnar o’r hyn oedd i’w ddisgwyl ar Feiral.
“Mae ‘Bregus’ wedi cael ymateb eitha’ da dwi’n meddwl. Y broblem ydy, mae’n annheg iawn i gymharu ‘Y Pwysau’ efo caneuon eraill fi – ma hona’n ‘once in a lifetime tune’ a dwi jyst yn falch iawn bod pobl wedi rili cymryd rwbath o’r gân yna.
“Dwi ddim yn poeni am drio sgwennu ‘Pwysau’ arall. Mae un yn ddigon.”
Efallai bod un ‘Pwysau’ yn ddigon, ond mae ‘Bregus’ yn dipyn o diwn hefyd, yn ogystal â’r traciau eraill sydd wedi cael eu datgelu cyn yr albwm, ‘Os Ti Moyn’ a ‘Uh – Oh’. Er hynny mae Mark yn amharod i enw ei hoff draciau o’r casgliad newydd…
“Fedra’i ddim pigo fy hoff gân…maen nhw i gyd fe fy mhlant i mi a dwi ddim isio rhoi complex i’r un ohonyn nhw.”
Addasu’r cynllun
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn o newid cynlluniau i bawb ac mae hynny’n wir am Mark hefyd. Mae enw’r record newydd yn awgrymu ei fod yn ganlyniad o’r flwyddyn ryfeddol rydym wedi’i wynebu, a daw i’r amlwg nad oedd Feiral yn rhan o’r cynllun o gwbl i Mr eleni.
“Toedd feiral ddim yn rhan o’r cynllun a dweud y gwir. Ar ôl y ddwy arall o’n i am gymryd fy amser gan arbrofi efo synths a dulliau gwahanol o ysgrifennu. Ond pan ddoeth y feirws, nes i jyst dechrau sgwennu llwyth o eiriau a tiwns. Ddaru’r wythnosau fynd heibio a cyn fi droi rownd, roedd ‘na un deg chwech o ganeuon wedi’u cwblhau.”
Roedd albyms blaenorol Mr yn ymdrin â phynciau cyfoes, ond roedd cryn dipyn o fwrw golwg nôl wedi’i blethu iddynt hefyd. Mae rhywun yn teimlo bod y dylanwadau ar Feiral ychydig yn wahanol, ac yn ôl Mark mae wedi mynd o’i chwmpas hi mewn ffordd wahanol hefyd gan dynnu mwy ar ddylanwad ei fand byw wrth recordio.
“Un o’r pethau da ddoth o sefyllfa’r locdown oedd bod yr hogia sy’n chwarae efo fi’n fyw heb lot i wneud ac yn bored” eglura Mark.
“Felly gan fod pawb yn styc yn tŷ, o’n i’n gyrru stwff draw iddyn nhw er mwyn iddyn nhw recordio eu bits nhw. Ac maen nhw wedi rili deall a chwarae pethau amazing sy’n adio at holl awyrgylch y record mewn ffordd hollol wych.
“Roedd o fel bod fi’n gyrru sketch bras o’r gân iddyn nhw ac yna ‘oeddan nhw’n lliwio’r sketches mewn.
“Yr unig beth oedd yn biti oedd nad oedd gan Steve ‘Frog’ Jenkins ei ddryms na’r dechnoleg yn ei dŷ, felly Osian Gwynedd sy’n chwarae’r dryms ar hon. Ma Osian yn gallu chwarae pob dim – amazing!”
Os ydach chi wedi bod yn talu sylw, siawns y byddwch wedi dod i’r casgliad bellach nad bwriad Feiral ydy cwblhau ‘trioleg’ o recordiau Mr, ac mae hyd yn oed gwaith celf yr albwm newydd yn pwysleisio hynny.
Roedd clawr y ddwy record gyntaf yn addasiad o’r un llun cyfarwydd hwnnw o Mark yn ei siaced felen drawiadol yn balansio ar un goes o flaen amgueddfa’r Louvre ym Mharis. Does dim golwg o’r siaced, na’r Louvre ar waith celf Feiral, er mai’r un gŵr oedd yn gyfrifol am ddylunio clawr Amen sydd wedi creu clawr yr albwm newydd.
“Nes i feddwl ail-adrodd y llun Louvre eto, ond gan photoshopio fi’n eistedd ar geffyl y wild west. Ond ddaru fy ffrind, Tayler Morgan, ddod i fyny efo’r syniad o’r Pangolin, math o anteater mae rhai’n meddwl ddaru gario’r feirws corona o ystlumod i bobl.
“Felly roedd y syniad yna jyst yn rhy dda i’w droi lawr.”
Teithio Feiral
Un peth arall cyffredin rhwng albyms blaenorol Mr ydy’r ffaith ei fod wedi cynnal teithiau hyrwyddo ar gyfer y ddwy record.
Gyda’r cyfyngiadau presennol, byddai rhywun yn tybio na fydd modd teithio Feiral, ond dywed Mark ei fod yn fod yn obeithiol bod hyn yn rhywbeth fydd yn gyffredin rhwng Feiral a’r ddwy record flaenorol.
“Dwi’n llawn gobaith rŵan fod pethau’n mynd i wella yn y flwyddyn newydd, a fyddai nôl yn gallu perfformio’r record yn fyw.
“Dwi wedi bod yn ponsho efo setlists a ballu’n barod…a dwi’n rili edrych mlaen, sy’n anarferol i fi!”
Does dim ond gobeithio bod Mark yn iawn, ac y bydd modd atal Covid rhag lledaenu gan alluogi Feiral…wel, i wneud y gwrthwyneb, a mynd yn feiral ar lwyfannau’r wlad.
Mae Feiral allan ar 4 Rhagfyr, ac mae modd prynu’n ddigidol neu ar CD ar safle Bandcamp Mr.
Lluniau: Gig Mr yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd – Mawrth 2019 (Celf Calon / Y Selar)
Geiriaau: Owain Schiavone