Trydydd sengl Teleri

Mae’r gantores electroneg newydd, Teleri, yn rhyddhau ei sengl newydd ar-lein wythnos yma.

‘Hawdd’ ydy enw trydedd sengl Teleri ac mae’n gân sy’n dathlu tywydd yr haf a sut gall y cyfnod cynhesach roi cryfder i rywun gael persbectif mwy cadarnhaol ar eu bywyd, ac ar eu hunain.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl ar wefan Y Selar ddydd Llun yma.

Trydydd trac

Mae Teleri yn artist cerddorol a gweledol sy’n disgrifio ei cherddoriaeth fel caneuon sy’n archwilio ei phrofiad personol o’r byd natur, gan gyfleu tirwedd newidiol ei hiechyd meddwl.

Ymddangosodd y gantores gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn eleni gan ryddhau’r trac ‘Euraidd’ a gafodd ymateb arbennig o dda.

Dilynwyd hynny gan sengl o’r enw ‘Adenydd’ ddiwedd mis Ebrill.

Gyda’i thrac newydd, mae Teleri yn camu’n ôl o’i chaneuon mewnsyllgar ac yn croesawu cyfeiriad newydd sy’n ysgafnach.

Cyntaf o gyfres

Mae’r cyfnod y cloi wedi rhoi’r cyfle i Teleri arbrofi gyda chreu cerddoriaeth dawns ac mae ‘Hawdd’ yn un o gyfres o draciau bydd yn eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Ei nod ydy creu set o draciau gwreiddiol y gall eu perfformio gan ddefnyddio deciau DJ.

Mae’n gobeithio bydd y ffordd yma o berfformio yn ei rhyddhau i fwynhau’r profiad o rannu ei cherddoriaeth gyda phobl eraill.

Mae hefyd yn gweithio ar gynhyrchu tafluniadau fydd yn dod ac elfen aml-synhwyrol i’r perfformiad – mae celf weledol yn amlwg yn bwysig iawn i Teleri ac mae wedi creu fideos animeiddiedig hyfryd ar gyfer ei senglau blaenorol.