Mae sengl ddiweddaraf y Welsh Whisperer yn cael cryn lwyddiant yn siart canu gwlad iTunes ar hyn o bryd.
Nos Sadwrn fe gyrhaeddodd ‘The B Road Bandit’, a ryddhawyd ddydd Gwener, rif 3 yn siart iTunes canu gwlad y DU, ac roedd ymgyrch ar droed i’w chodi i rif 1.
Erbyn nos Sul roedd y trac yn rif 2 ar y rhestr gyda dim ond ‘Rainbow’ gan Kacey Musgraves yn uwch.
Ond mae’n ymddangos mai dyma oedd diwedd y ffordd am y tro…neu fod y Welsh Whisperer wedi cyrraedd dead end ar y B road o leiaf…achos er gwetha’ ymgyrchu brwd gan y gŵr o Gwmfelin Mynach, doedd rhif 1 ddim i fod y tro yma.
Dyma’r gân boncyrs ddiweddaraf gan W.W. beth bynnag: