Welsh Whisperer nôl ar faes y sioe

Mae’r Welsh Whisperer wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 24 Gorffennaf.

Mae’r adlonnwr poblogaidd wedi cydweithio gyda Menter Brycheiniog a Maesyfed, ynghyd â phlant Ysgol y Bannau, Aberhonddu i gyfansoddi cân deyrnged i’r sioe amaethyddol, ddylai fod wedi bod yn digwydd yn Llanelwedd wythnos diwethaf.

‘Nôl i Faes y Sioe’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n dathlu bwrlwm a chyfoeth prif sioe amaethyddol Cymru, ac yn ogystal â hiraethu am y digwyddiad, mae hefyd yn edrych ymlaen at ei chael yn ôl yn 2021.

Ag yntau wedi arfer a theithio’r wlad yn gigio’n gyson trwy’r flwyddyn, yn arbennig mewn sioeau a dawnsfeydd amaethyddol, mae’r clo mawr wedi gadael tipyn o fwlch ym mywyd y Welsh Whisperer. Mae’r gân newydd yn llenwi’r bwlch hwnnw am y tro o leiaf.

Mae’r sengl allan yn ddigidol ar label Recordiau Hambon.