Ynysig #2 – EP newydd Hap a Damwain

Mae’r grŵp Hap a Damwain wedi rhyddhau eu ail EP yn ystod cyfnod y cloi mawr ar eu safle Bandcamp.

‘Ynysig #2’ ydy enw’r casgliad byr newydd o ganeuon, ac mae’n dilyn ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd yn ddigidol ganddynt fis diwethaf.

Pedwar trac sydd ar yr EP diweddaraf sef ‘Poer a Glud, ‘Planhygion’, ‘Rhyl’ a Brenhines’ ac fel eu caneuon blaenorol maen nhw’n ganeuon pop arbrofol ond bachog.

Hap a Damwain ydy prosiect newydd dau o gyn-aelodau’r grŵp Boff Frank Bough, sef grŵp o Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd oedd yn amlwg yn y 1980au.

Ail-ffurfiodd y grŵp i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd ac ers hynny mae dau o’r aelodau wedi mynd ati i ddechrau’r prosiect newydd.

Aelodau Hap a Damwain ydy’r canwr Aled Roberts, sydd hefyd yn chwarae’r organ, a Simon Beech ar y gitâr a phopeth arall. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.

Penderfyniad munud olaf

Mae’n deg dweud bod y grŵp wedi bod yn brysur ac yn gynhyrchiol iawn mewn cyfnod byr gan ryddhau EP cyntaf, ‘Bws 10’ ar ddechrau mis Chwefror.

Dilynodd ‘Ynysig #1’ ddechrau mis Mai, ynghyd â fideos ar gyfer dau o’r traciau sef ‘Methodist’ a ‘Tŷ Baw’.

Yn ôl Simon ac Aled, penderfyniad munud olaf yn ystod sesiwn Zoom diweddar oedd i orffen mastro’r record a chreu’r gwaith celf er mwyn rhyddhau’r EP newydd mor fuan.

Yn ôl yr aelodau maen nhw’n hapus iawn gyda’r record diweddaraf, a gallwn ni ddisgwyl trydydd EP, ‘Ynysig #3’, ymhen y mis. Dywed y grŵp eu bod nw hefyd yn edrych ymlaen at allu ymarfer eu set byw unwaith bydd y cloi mawr yn llacio.