Yr Eira’n rhyddhau ail-gymysgiad fel sengl

Mae Yr Eira wedi rhyddhau fersiwn newydd wedi’i hail-gymysgu o’r gân ‘Esgidiau Newydd’ heddiw, 20 Tachwedd.

Ymddangosodd y trac  yn wreiddiol ar albwm diweddaraf y grŵp, Map Meddwl a ryddhawyd ar 15 Mai eleni, ond mae’r fersiwn newydd yn ganlyniad gwaith ail-gymysgu’r cynhyrchydd dawnus Frank Naughton.

Wrth fynd ati i ymdrin â’r gân mae Naughton wedi dewis trywydd dawns gan chwarae gydag ambell elfen o’r gân wreiddiol yn unig. Yn benodol felly y llinell “llusgo, llusgo, er fy mod i’n gwisgo, gwisgo”, y llinell fas a’r middle 8.

Mae ei benderfyniad i ganolbwyntio ar yr elfennau hyn yn tynnu sylw’n fwyfwy at thema’r gân sef bod esgidiau newydd yn rhyw fath o symbol o’r daith y mae rhywun yn ei ddilyn trwy fywyd.

“erioed wedi gweithio efo rhywun tebyg”

Eglurodd gitarydd a chanwr Yr Eira, Lewys Wyn, wrth Y Selar ei fod wedi gweithio gyda Frank Naughton wrth recordio deunydd ei brosiect unigol ac yn awyddus iawn i’r cynhyrchydd fynd i’r afael ag un o ganeuon Yr Eira.

“Dwi di gweithio efo Frank o’r blaen wrth recordio stwff Sywel Nyw a dwi honestly erioed wedi gweithio efo rhywun tebyg”  meddai Lewys.

“Mae o’n gynhyrchydd hen ffasiwn sy’n gweithio mewn modd hollol wahanol! O’n i’n gwbod fysa fo’n rhoi stamp hollol unigryw ar y gân felly fo oedd y boi amdani.”

Mae Yr Eira’n un o’r bandiau ac artistiaid hynny sydd wedi gorfod brwydro cyfyngiadau 2020 wrth hyrwyddo eu halbwm newydd, ac wedi ceisio gwneud hynny mewn ffordd creadigol dros y misoedd diwethaf.

Mae ail-gymysgu ‘Esgidiau Newydd’ yn dystiolaeth bellach o hyn, ac yn dilyn esiampl sawl artist arall sydd wedi dilyn y trywydd o ail-gymysgu traciau eleni.

“Mae o’n ffordd hawdd o ryddhau cerddoriaeth, ac yn wbath ychydig yn wahanol i unrhyw un gael blas ag i gadw diddordeb” meddai Lewys.

“Ond na’i fod yn onest dwnim pa mor boblogaidd ydi nhw, dwi’n bersonol ddim yn dueddol o wrando ar ail-gymysgiadau, ond ma gwneud hwn wedi dangos i fi gymaint o grefft a pa mor dda ma nhw’n gallu bod!”

Yn sicr mae hon yn un ail-gymysgiad sy’n haeddu gwrandawiad – tiiiiwn!