Adwaith i gefnogi’r Manics

Bydd y grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, yn cefnogi’r enwog Manic Street Preachers mewn gig yn Halifax nos Wener yma, 10 Medi.

Mae’r gig yn digwydd yn lleoliad The Peace Hall ac yr artistiaid eraill sy’n perfformio ydy Sea Power a Low Hummer.

Mae cysylltiad yn bodoli rhwng Adwaith a’r Manics eisoes – bu i ganwr a gitarydd y Manics, James Dean Bradfield, ail-gymysgu trac ‘Gartref’ gan y triawd o’r Gorllewin nôl yn 2018.

Feinyl Melyn a James Dean Bradfield