Agor Cronfa Lansio Gorwelion

Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi agor eu Cronfa Lansio blynyddol, sy’n cynnig cymorth  ariannol i artistiaid yng Nghymru.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r gronfa’n benodol ar gyfer artistiaid a bandiau sy’n dechrau ar eu gyrfa gerddorol, gan hefyd eu helpu i gyflawni eu potensial yn y diwydiant. Y nod ydy cynnig cymorth i artistiaid gyrraedd cynulleidfaoedd newydd neu ehangach.

Gall artistiaid, bandiau neu labeli yng Nghymru wneud cais i’r gronfa ond bod rhaid i’r prosiect dan sylw fod yn canolbwyntio ar weithgarwch yr artist.

Bwriad y gronfa ydy helpu i gefnogi artistiaid i gyflawni eu potensial, ac mae Gorwelion yn chwilio am artistiaid a bandiau sy’n gallu dangos diddordeb gan gynulleidfaoedd a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae Gorwelion yn annog artistiaid i feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gall cymorth Cronfa Lansio eu galluogi i wneud pethau’n wahanol.

Mae modd gwneud cais am gyllid hyd at £2000 ar gyfer prosiect, ac mae mwy o wybodaeth ar dudalennau Gorwelion ar wefan BBC Cymru.