Bydd Emma Marie yn ryddhau ei hail albwm ar ddydd Llun 25 Hydref.
‘O Dan yr Wyneb’ ydy enw’r record newydd sydd allan ar label Aran, ac mae’n dilyn yr albwm ‘Deryn Glân i Ganu’ a ryddhawyd ganddi yn 2018.
Mae’r albwm newydd yn wahanol iawn i’r cyntaf yn ôl y label. Mae yna amrywiaeth o ganeuon sy’n dangos yr ochr arall i gymeriad Emma, yr ochr hwylus, llawn bywyd ac yn aml yn ddoniol.
Mae’r trac cyntaf ‘Hogan Dre yn y Wlad’ yn esiampl o hyn; yn trafod yr anhawster digri sy’n wynebu hogan ifanc wrth iddi drafod llwybr gwledig, cefn gwlad. Mae’r trac diwethaf yn ddeuawd gyda cherddor poblogaidd arall o’r gogledd, Phil Gas, ac mae’r teitl ‘Hanner Call’ yn esbonio pob dim am y trac!
“Mae’r peidio gigio trwy’r cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn i ni gyd fel artistiaid” meddai Emma Marie
“Ond dwi wedi defnyddio’r amser yna i gyfansoddi mwy o ganeuon”.
“Mae yna gân tu ôl i bob profiad mewn bywyd” ychwanega Emma.
“Am fy mod i wedi bod trwy fwy o brofiadau ers yr albwm cyntaf rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a hynny sydd yn helpu fi yn bersonol i gyfansoddi”.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys y baledi fel ‘Gweddi ger y Lli’, caneuon serch fel ‘Clo ar Dy Galon’ a chân werinol ‘Llyncu’r Abwyd’, sy’n rhestru idiomau Pen Llŷn.
Mae Emma wedi llwyddo i recriwtio nifer o gerddorion amlwg i gyfrannu ar yr albwm gan gynnwys Ged Lynch Huw Roberts, Sara Owen, Wyn Pearson, John Williams, Pwyll Ap Sïon, Emyr Rhys a Phil Gas. Alun Roberts sy’n gyfrifol am y trefniadau.