Mae’r grŵp o ardal y Bala a Môn, Y Cledrau, wedi cyhoeddi manylion llawn ei halbwm newydd sydd allan ddydd Gwner yma, 2 Gorffennaf.
Enw ail record hir y grŵp fydd ‘Cashews Blasus’ ac fe fydd yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau I KA Ching.
Mae’r albwm yn ddilyniant i record hir ddiwethaf y grŵp poblogaidd, ‘Peiriant Ateb’ a ryddhawyd yn 2017.
Datgelodd Y Cledrau bod albwm newydd ar y gweill ganddynt beth amser nôl, a bu awgrymiadau fod y dyddiad rhyddhau’n fuan wrth i’r pedwarawd ryddhau’r ddwy sengl ‘Hei Be Sy’ a ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ dros yr wythnosau diwethaf.
Recordiwyd yr albwm mewn pytiau drwy gydol 2020-21 yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Mynd i eithafion
Yn ôl y band mae hwn yn albwm sy’n mynd i fwy o eithafion na’r diwethaf – y traciau trymaf yn drymach, a’r ysgafnaf yn ysgafnach. Yn ôl y grŵp, treuliwyd mwy o amser yn y stiwdio yn arbrofi ac addasu i’r gwahanol fathau o ganeuon – gyda thri trac wedi eu recordio’n fyw am y tro cyntaf.
Mae’r albwm yn cymysgu geiriau gorffwyll llif yr ymwybod â sain galed, riffs cofiadwy ar y gitâr. Mae’n llawn pytiau geiriol ffraeth a’r angst felancolig sy’n rhemp drwy holl gynnyrch y band.
Bydd fideo ar gyfer trac cynta’r albwm, ‘Disgyn Ar Fy Mai’, yn cael ei ryddhau i gydfynd â’r albwm ac o’r gân hon y daw enw’r albwm diolch i’r llinell sy’n cyfeirio at ‘Cashews Blasus’.
Mae’r fideo’n gasgliad o fideos personol y pedwar aelod ac wedi’i olygu gan Rhys Grail.
Mae’n gofnod o flwyddyn a hanner o anturiaethau gwirion a’r broses o roi syniadau a meddyliau at ei gilydd i greu un cyfanwaith lliwgar, blasus.
Am y tro, dyma fideo gwych y sengl gyntaf, ‘Hei Be Sy’: