Ail don Sŵnami

Does dim byd fel comeback i gyffroi ffans cerddoriaeth.

Fleetwood Mac, Spice Girls, Super Furry Animals, Dafydd Iwan…Dafydd Iwan eto.

Wnaeth Sŵnami erioed chwalu na chyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau iddi, ond gydag ychydig iawn o sôn amdanyn nhw ers rhyddhau’r sengl ‘Dihoeni’ yn Awst 2017, roedd rhywun wir yn dechrau poeni am ddyfodol un o grwpiau mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 2010au.

Dim syndod felly bod tipyn o gyffro wrth iddyn nhw ddechrau bwydo ambell awgrym fod rhywbeth ar y gweill  ddechrau mis Mawrth, gyda phenllanw o ryddhau sengl ddwbl newydd ddydd Gwener diwethaf.

Cynllunio

‘Theatr’ ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ ydy enwau’r ddau drac sydd ar sengl ddwbl newydd y grŵp o Feirionydd, ac maent bellach hefyd wedi ymgartrefu dan gesail label Recordiau Côsh.

Yn sicr roedd ôl cynllunio ar ymgyrch rhyddhau’r sengl gyda fideo trawiadol ar gyfer ‘Theatr’, lluniau hyrwyddo o’r aelodau mewn siwtiau porffor newydd swanc, a sylw da ar wefannau cerddoriaeth amlwg fel Clash Magazine a ‘New Music Friday’  yr Official Charts.

Ac yn ôl Ifan Ywain, chwaraewyr gitâr ac allweddellau Sŵnami, er gwaetha’r distawrwydd cyhoeddus, mae’r grŵp wedi cadw’n brysur yn y cefndir dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hi wedi bod bron i bedair blynedd ers i ni ryddhau ‘Dihoeni’ rŵan, a doedd cymryd saib mor hir â hynny’n bendant ddim yn ‘wbath ‘oedden ni wedi ei gynllunio” cyfaddefa Ifan wrth sgwrsio gyda’r Selar.

“‘Da ni wedi bod yn jamio ac yn gweithio ar stwff yn gyson yn ystod y cyfnod yma, dio’m fatha bo’ ni heb gyffwrdd mewn gitâr ers hynny, jyst ein bod ni wedi cyrraedd pwynt o’r diwedd lle oedden ni gyd yn hapus efo’r caneuon ac eisiau eu rhannu nhw.”

Doedd cyfnod segur cyhyd ddim yn rhan o’r cynllun felly, a sawl rheswm am hynny, ond tybed i ba raddau mae sefyllfa’r byd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dal pethau yn ôl felly?

“Fel bob dim, mae Covid wrth gwrs wedi effeithio ar y broses sgwennu a’r broses recordio yn enwedig” meddai Ifan.

“Ma’ pawb wedi hen laru ar weld ein gilydd ar Zoom erbyn hyn, ond ‘oedd rhaid addasu, ac yn syml, heb wneud hynny fyddai’r caneuon ddim yn cael eu gorffen! ‘Da ni’n lwcus mewn ffordd ein bod ni wedi cael saib mor hir, gan fod neb yn disgwyl i ni ryddhau dim byd yn fuan, felly doedd dim rhaid gwthio dyddiadau yn ôl a chanslo gigs a ballu – oedden ni’n rhydd i ryddhau pan oedden ni’n barod.”

Sŵn newydd Sŵnami?

Fel cymaint o gerddoriaeth newydd sydd wedi’i ryddhau’n ddiweddar felly, mae’n ymddangos bod y cyfnod clo wedi bod yn rhyw fath o gymorth, a hwb annisgwyl i’r grŵp.

Oedd, roedd rhaid addasu’r dulliau rhannu syniadau, cyfansoddi a recordio mewn sawl ffordd, ond mae’r grŵp wedi dyfalbarhau gyda rhai elfennau o’r fformiwla sydd wedi gweithio cystal iddynt dros y ddegawd diwethaf, gan gynnwys gweithio gyda’r un cynhyrchydd.

Wrth ryddhau, roedd sôn bod y grŵp yn awyddus i ymestyn eu cerddoriaeth i gynulleidfa ehangach, felly rhwng hynny a’r saib, tybed i ba raddau mae sŵn Sŵnami wedi datblygu?

“Mae hynny i’r gwrandawyr ddweud, yn fwy na ni ella?” ydy barn Ifan.

“Yn amlwg ‘da ni wastad eisiau datblygu’r sŵn a thrio pethau gwahanol – mae hynny’n glir yn ‘Uno, Cydio, Tanio’, sy’n hollol wahanol i unrhyw beth ‘da ni ‘di drio’i ‘neud o’r blaen. Ond dwi’m yn meddwl bo’ ni erioed wedi eistedd lawr a meddwl – ‘da ni eisiau swnio fel ‘na’.

“Mae ‘na’n bendant fwy o ymdrech wedi mynd i’r ochr gynhyrchu ar y tracs yma, ac ella mwy o gydweithio rhyngom ni a Rich [James Roberts – Stiwdio Ferlas], ond y caneuon eu hunain, mae hynny wedi digwydd yn naturiol.”

Awydd i ddianc

Gydag ymgyrch mor amlwg rhwng y label a’r band i greu naratif cryf o gwmpas y sengl, nid yw’n syndod bod fideo uchelgeisiol wedi’i greu ar gyfer un o’r traciau.

Mae Sŵnami a Côsh yn ymwybodol iawn o rym hyrwyddo fideo cerddoriaeth da – mae Sŵnami wedi ennill gwobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ Gwobrau’r Selar ddwywaith (‘Gwreiddiau’ – 2013; ‘Gwenwyn’ – 2014) a rheolwr Côsh, Yws Gwynedd yntau, wedi ennill y wobr honno deirgwaith (‘Sebona Fi’ – 2015, ‘Sgrin’ – 2016, ‘Drwy Dy Lygaid Di’ – 2017).

Ar gyfer fideo ‘Theatr’ maent wedi troi at ddoniau cyfarwyddo Sam Kinsella, yn ogystal â’r actor Tom Rhys Harries sy’n adnabyddus am ei ran yn y gyfres ‘White Lines’ ar Netflix.

Mae’r fideo wedi’i ffilmio ym Mhentref Eidalaidd enwog Portmeirion ger Porthmadog, sydd wrth gwrs yn gosod cefnlen trawiadol. Portmeirion oedd lleoliad y gyfres deledu enwog o’r 1960au, ‘The Prisoner’, wrth gwrs a daw’n amlwg o drafod gydag Ifan bod hynny’n berthnasol iawn i thema’r fideo.

“Rhai o’r themâu oedden ni’n awyddus i’w cynnwys yn y fideo o’r dechrau oedd deuoliaeth a’r awydd i ddianc” eglura.

“Hynny yw, yr holl broblemau sydd o’n cwmpas ni ar y funud yn gymdeithasol, yn wleidyddol a’r pandemig ac ati – a chymharu hynny efo’r ffordd mae pobl yn ceisio ‘dianc’ ac ymddwyn fel bod pob dim yn berffaith ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati.

“Yn amlwg mae’r fideo’n agored i bobl ei ddehongli fel y mynnon nhw, ond i ni’r syniad oedd dangos brwydr bersonol unigolyn rhwng y byd ‘perffaith’ yma, sy’n araf ddisgyn yn ddarnau, a’r bywyd ‘go iawn’ sydd ychydig yn fwy dryslyd.”

Mae’r fideo’n sicr yn drawiadol ac yn cyfrannu at y naratif cryf sydd o gwmpas y sengl. Ac mae’n dda gweld band a label yn gweithio’n agos i greu cynllun hyrwyddo effeithiol – rhywbeth mae Côsh wedi gwneud yn gyson dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, ond hefyd labeli eraill Cymreig fel Libertino ac I KA CHING.

Mae hyn wedi talu ffordd mewn rhai achosion gydag ambell artist Cymraeg yn llwyddo i ddenu sylw rhyngwladol, ac i fand fel Sŵnami sydd wedi cyrraedd brig y sin Gymraeg mae’n rhaid ei bod yn ddyhead i efelychu’r rhain.

“Dwi’n meddwl fod pob band neu artist eisiau sicrhau bod gymaint o bobl â phosib yn clywed eu cerddoriaeth, a dyna sy’n bwysig i ni hefyd.

“Dros y blynyddoedd diwetha’ ma sawl artist Cymraeg – Alffa, Gwenno, Adwaith ac eraill – wedi cael llwyddiant wrth gyrraedd cynulleidfaoedd di-gymraeg ac os fedrwn ni gyfrannu tuag at hybu cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth o Gymru mewn unrhyw ffordd, yna gret!

“Ond dydi hyn ddim yn ‘Sŵnami trying to break America’ o gwbl, mae o jyst yn fater o drio ein gorau a gweld be ddigwyddith!”

I fand sydd eisoes wedi gosod eu stamp yn gadarn, mae honno’n agwedd iach, ac wrth i ni fwynhau adfywiad, os nad atgyfodiad, un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, tybed oes gobaith o fwy o gynnyrch yn fuan gan Sŵnami i ddilyn y sengl ddwbl yma?

“Dwi ddim eisiau dweud gormod ar hyn o bryd, ond fydd hi ddim yn bedair blynedd arall cyn y gân nesa!”

Heb godi gobeithio yn ormodol, mae hynny’n swnio’n addawol i ni.