Ail drac prosiect Sbardun Talent Ifanc

Mae’r prosiect sy’n cael ei arwain gan y cynhyrchydd electronig, Endaf, sef ‘Sbardun Talent Ifanc’, wedi rhyddhau ail sengl sy’n cyfuno doniau dau gerddor ifanc talentog arall ar 13 Awst.

‘Gweld dy Hun’ ydy enw’r sengl newydd sy’n gweld Endaf yn cydweithio gyda skylrk. (Hedydd Ioan) a Fairhurst (Rhys Fairhurst).

Bwriad y prosiect ydy rhoi’r cyfle i gerddorion newydd gydweithio gydag Endaf Robert i greu cerddoriaeth Gymraeg newydd. Rhyddhawyd trac cyntaf y prosiect, ‘Niwl’, fel cydweithrediad rhwng Endaf, Dafydd Hedd a Mike RP yn ddiweddar.

Ar gyfer y sengl newydd, gwahoddwyd skylrk. a Fairhurst i stiwdio Endaf yn y Galeri, Caernarfon i recordio’r trac.

Mae Fairhust yn DJ, cynhyrchydd a darlledwr ifanc a thalentog o Ogledd Cymru. Mae’r wedi ymddangos ar leinyps ochr yn ochr ag enwau mwyaf y sîn fel Eris Drew, Dan Shake a Shanti Celeste.

Wedi’i ddylanwadu’n drwm gan yr 80au, mae Fairhust yn arbenigo mewn dewis club classics yn amrywio o Disco, House a Techno.

skyrlk. yw prosiect cerddorol newydd y cyfarwyddwr ffilm ifanc o Ogledd Cymru, Hedydd Ioan.

Mae ei waith yn cyfuno ei angerdd at gerddoriaeth o sawl genre gwahanol gyda’i sgiliau storïol ac ysgrifennu.

Trwy blethu cerddoriaeth a chelf weledol, mae’n gobeithio dod ag egni newydd i’r sîn gerddorol Gymreig a chreu rhywbeth hollol unigryw. skylrk. oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Amgen yn ddiweddar.

Dylanwadodd y ddau artist yn drwm ar y trac yma, gyda Fairhurst yn dod ag ysbrydoliaeth o’i ddewis eclectig o gerddoriaeth fel DJ wedi’i bartneru gyda pherfformiad eeire skylrk. wedi’i ysbrydoli gan ei waith creadigol blaenorol.

Mae  Endaf yn gludo’r ddau fyd yma at ei gilydd a chreu sŵn eccentric sy’n sicr o gael ei gynnwys mewn setiau DJ wrth i reolau COVID19 lacio yng Nghymru.

Yn ogystal â’i fewnbwn trawiadol i’r trac, mae skylrk. wedi creu gwaith celf hyfryd ar gyfer y sengl – artist sy’n serennu mewn sawl maes o fewn y byd celfyddydau.