Ail-drefnu gig Gareth Bonello a Georgia Ruth

Mae dyddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer gig Gareth Bonello (The Gentle Good) a Georgia Ruth yn Nhŷ Tawe, Abertawe.

Roedd y gig i fod i ddigwydd ar 12 Tachwedd ond bu’n rhaid gohirio’n hwyr yn y dydd oherwydd salwch.

Bellach mae’r dyddiad newydd ar gyfer y gig wedi’i osod sef 18 Mawrth 2022.

Mae tocynnau gwreiddiol y gig dal yn gymwys i’w defnyddio, ac mae’r trefnwyr hefyd wedi rhyddhau nifer fach o docynnau ychwanegol i’w prynu.