Mae’r fersiwn o gân Emeli Sandé, ‘Daddy’ (ft. Naughty Boy)’ sydd wedi’i ail-gymysgu gan Ifan Dafydd wedi croesi miliwn ffrwd ar Spotify.
Rhyddhawyd fersiwn wreiddiol y trac fel sengl oddi-ar albwm Emeli Sandé, ‘Our Version of Events’, yn 2012.
Roedd y cynhyrchydd Shahid ‘Naughty Boy’ Khan yn ymddangos ar y trac, ac fe ryddhawyd y fersiwn wedi’i ail-gymysgu gan Ifan Dafydd fel trac bonws ar ei albwm yntau, ‘Hotel Cabana’, yn Awst 2013.