Ail-gymysgiadau albwm Ghostlawns

Mae’r grŵp o Gaerdydd, Ghostlawns, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau ail-gymysgiadau o dri trac ganddynt ar 14 Mai.

Yn ôl y grŵp, maent wedi gofyn i ffrindiau cerddorol agos fynd i’r afael a chaneuon o’u halbwm ‘Motorik’ a ryddawyd fis Hydref diwethaf.

Y ddeuawd electronig, Cotton Wolf, sydd wedi ail-gymysgu’r trac ‘Guppy’, gyda chynhyrchydd yr albwm, Charlie Francis yn rhoi ei stamp amgen ar ‘Akademie’.

Y trydydd trac ydy ‘Y Gorwel’ sydd wedi’i ail-gymysgu’n arbennig gan RHLH Ratatosk.