Ail-gymysgu tiwns Mr Phormula

Bydd fersiwn newydd o nifer o ganeuon albwm ‘Tiwns’ gan Mr Phormula yn cael ei ryddhau ar 12 Chwefror.

Mae’r casgliad yn cynnwys wyth o ganeuon albwm diweddaraf y rapiwr a bitbocsiwr o Amlwch wedi eu hailgymysgu gan artistiaid gwahanol.

Mae’r casgliad wedi’i guradu gan label Recordiau Afanc sef y label newydd sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth electronig, a sy’n cael ei redeg gan aelodau’r grŵp Roughion.

Yn ôl Afanc mae eu record gyntaf o 2021 yn un arloesol sy’n eu gweld yn gweithio gyda’r “meistr hip-hop Mr Phormula i guradu casgliad o ailgymysgiadau o’i albwm diweddar”.

Mr Phormula, neu Ed Holden, sydd wedi dewis y rhestr o draciau i’w hail-gymysgu, ac Afanc sydd wedi mynd ati i drefnu’r gweddill.

Er bod gan Afanc gasgliad o artistiaid anhygoel, penderfynwyd i daflu’r rhwyd yn ehangach na cherddorion y label yn unig, ac i ofyn i artistiaid electronig Cymry i fod yn rhan o’r albwm, gan sicrhau ei fod yn cynnwys cymaint o genres gwahanol o gerddoriaeth electronig â phosib.

Mae’r casgliad, sy’n cael ei gyhoeddi ar label Mr Phormula Records, yn cynnwys ail-gymysgiad Theno o ‘Aelodau’r Cymdeithas’, a gafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth dubstep 2012.

Mae hefyd yn cynnwys fersiwn EDM a hip-hop Sachasoms o ‘More To This’, ail-gymysgiad DNB Clü o ‘All We Have’ ac ail-gymysgiad Roughion o ‘Polarize’ sydd wedi’i ysbrydoli gan heavy acid.

Yn ôl Afanc, mae rhywbeth o bob elfen o gerddoriaeth electroneg wedi’i gynnwys ymysg yr wyth trac.

Dyma fersiwn wreiddiol ‘Aelodau’r Cymdeithas’: