Mae fersiynau wedi’u hail-gymsgu o draciau sengl ddwbl ddiweddar Sŵnami, wedi cael eu rhyddhau gan label Recordiau Côsh dros y bythefnos ddiwethaf.
Rhyddhawyd ‘Theatr / Uno, Cydio, Tanio’ ddechrau mis Mawrth, a dyma gynnyrch cyntaf Sŵnami ers 2017.
Nawr mae fersiwn newydd o’r ddau drac yn cael eu rhyddhau, ‘Uno, Cydio, Tanio’ ers dydd Gwener 23 Ebrill, cyn i ‘Theatr’ ddilyn ddydd Gwener diwethaf.
Fersiwn Nate o ‘Uno, Cydio, Tanio’
Nate Williams sydd wedi mynd i’r afael â’r gyntaf, ‘Uno, Cydio, Tanio’. Mae Nate yn gerddor a chyfansoddwr hynod o dalentog ac wedi bod ar yr allweddellau i Jamiroquai yn ddiweddar.
Yn wahanol i ailgymysgiad mwy electroneg y gwnaeth i un o ganeuon Thallo yn ddiweddar ar gyfer her ‘Stems’ sioe Sian Eleri ar BBC Radio Cymru, mae’r un yma’n llawer agosach i’r math o gerddoriaeth mae Nate yn rhyddhau ei hun, gydag elfennau slic o gerddoriaeth funk, soul ac R&B.
Yn fwy celfydd na gosod rhythm neu deimlad gwahanol i’r gân, rydym yn cael cyfansoddiad gwbl wahanol wedi’i selio ar alaw hyfryd Sŵnami.
‘Theatr’ Bryn Morgan
Fersiwn Bryn Morgan o ‘Theatr’ gafodd ei ryddhau ddydd Gwener diwethaf, ac mae’n wahanol i unrhyw beth sydd wedi’i gynnig yn Gymraeg yn y gorffennol yn ôl Côsh.
Mae Bryn yn cynnig curiadau electroneg wedi’u creu i ddod ag emosiwn allan o’r gân ac i’r gwrandäwr.
Yn llawer mwy ymlaciedig na’r trac gwreiddiol, mae ailgymysgiad Bryn yn cyffwrdd gyda’r arallfydol, gyda’r curiadau llaith yn awgrymu fod y gwrandäwr o dan y dŵr ar adegau.
Mae Bryn yn gyson iawn am ryddhau cerddoriaeth ei hun hefyd ar hyn o bryd, ac yn ôl Côsh ma’n werth cadw golwg ar ei gyfryngau cymdeithasol os ydych yn hoff o gerddoriaeth electroneg ymlaciedig.
Dyma fersiwn Bryn o ‘Theatr’: