Ail-ryddhau Sengl Nadolig Ystyr

Mae’r grŵp electronig, Ystyr, wedi penderfynu ail-ryddhau eu sengl Nadolig, ‘Dolig Weird’. 

Fe ryddhawyd y sengl yn wreiddiol llynedd ar eu safle Bandcamp yn unig, ond eleni maent wedi penderfynu ail-ryddhau’r trac yn iawn ar yr holl lwyfannau digidol arferol. 

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywed y band fod neges y gân dal yn berthnasol, felly eu bod yn teimlo ei bod yn briodol i ail-ryddhau’r trac eleni. 

“Dyma ail-ryddhau ein cân ‘Dolig o blwyddyn diwethaf – ’Dolig Weird’” meddai Ystyr.  

“Ers i Ystyr ddechrau cyfansoddi a rhyddhau cerddoriaeth, mae cysgod Covid wedi llechu dros y byd, ac ein caneuon ni.

“Mae’n anodd credu ei bod hi bron i ddwy flynedd ers i’r holl beth ddechrau, ac anoddach fyth i gredu fydd hi yn Dolig Weird eto blwyddyn yma, gyda chyfyngiadau yn debyg o effeithio ar yr ŵyl.

“Does dim amdani felly ond i synfyfyrio ar ryfeddwch ein byd gyda’r pelydriad cerddorol yma o electronica hapus-drist.”

Grŵp tri aelod ydy Ystyr sef  Rhys Martin o’r grŵp Plant Duw, ei gefnder Owain Brady, a Rhodri Owen, gynt o Yucatan a Cyrion ac maent wedi rhyddhau cyfres o senglau yn ystod 2020.

Mae’r artist celf gweledol, Pete Cass, hefyd yn aelod o’r grŵp gan eu bod yn rhoi pwyslais arbennig ar waith celf pob cynnyrch sy’n cael ei ryddhau ganddynt. 

Eu label eu hunain, Curiadau Ystyr, sy’n rhyddhau’r sengl.