Ail-ryddhau Senglau Label Boobytrap

Mae casgliad clwb senglau label Boobytrap wedi’i ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf wythnos yma.

Boobytrap oedd y label recordiau yng Nghaerdydd oedd yn cael ei redeg gan y cyflwynydd radio Huw Stephens a’i ffrind ysgol Geraint John, ynghyd â’r cynhyrchydd Greg Haver a’r technegydd cerddorol, Ceri Collier.

Roedd y label yn weithgar ar ddechrau’r Mileniwm yn arbennig, gyda’r nod o ryddhau cerddoriaeth gan fandiau o ardal Caerdydd yn arbennig.

Rhwng 2000 a 2003 rhyddhawyd cyfres o 24 o senglau ar ffurf CD gan y label gan fandiau oedd yn cynnwys MC Mabon, Zabrinsky, Big Leaves, Texas Radio Band a Pep Le Pew.

Nid dyna oedd diwedd hanes y label gan iddynt ymestyn eu catalog wedi hynny i EPs ac albyms hefyd – roedd albyms gan artistiaid Cymraeg amlwg fel Lo-Cut a Sleifar, Kentucky AFC, Cofi Bach a Tew Shady a Richard James ymysg y recordiau a ryddhawyd ganddynt.

Cafodd y label gryn dipyn o lwyddiant, gan ddenu sylw’r cyflwynydd radio eiconig John Peel, ynghyd â chylchgronau NME a Rolling Stone. Mewn darn yn rhifyn nesaf Y Selar mae Huw Stephens yn sôn am ba mor gefnogol oedd Peel i’r label.

Nawr mae’r gyfres o 24 sengl a ryddhawyd dros y blynyddoedd cyntaf ar gael ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf, a chyfle i gael blas o’r newydd o ambell glasur yn eu mysg.

Ail sengl Boobytrap yn 2000 oedd ‘Go Iawn Wir Yr / Western Avenue’ gan MC Mabon…