Wrth i’r cyffro ar gyfer pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2020 ddechrau cynyddu, mae’r llif anochel o ganeuon i gefnogi ymgyrch tîm Cymru yn y gystadleuaeth wedi dechrau ymddangos.
Ar flaen y gad mae’r band, ac er tegwch, cefnogwyr Cymru bytholwyrdd Ail Symudiad sydd wedi rhyddhau eu sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 14 Mai.
Mae’r grŵp o Aberteifi wedi bod yn gefnogwyr pybyr o’r tîm cenedlaethol ers blynyddoedd gan eu dilyn mewn gemau cartref ac oddi-cartref.
Enw priodol iawn y sengl newydd ganddynt ydy ‘Dilyn Cymru’ ac mae’n addasiad o’r gân ‘Symud Trwy’r Haf’ oedd wedi ei chynnwys ar yr albwm ‘Sefyll ar y Sgwâr’ a ryddhawyd ym 1982 gan y grŵp.
Mae’r geiriau’n wahanol i’r gân wreiddiol wrth gwrs, ond mae rhai elfennau’r un fath. Yn y wreiddiol, mae’r grŵp yn hawlio mai nhw oedd y band Cymraeg cyntaf i enwi pêl-droed mewn cân gyda’r llinell “Pêl-droed ar y tywod gwyn. Byth yn chwarae fel Brasil.”
Mae’r geiriau newydd yn sôn am ddilyn Cymru yn yr Ewros, Cwpan y Byd, a gemau eraill. Ac ar gyfer ei recordio mae Ail Symudiad wedi recriwtio dau drwmpedwr arbennig, sef Chris Leek a Jamie White, sydd wedi hen arfer perfformio mewn gemau pêl-droed Cymru gyda’r grŵp ‘codi canu’ y Barry Horns.
Recordiwyd y trac yn Stiwdio Fflach ychydig cyn y cyfnod clo gyda’r cynhyrchydd Lee Mason.