Ail wobr i Mared, a chyntaf i Malan

Cyhoeddwyd enillwyr dwy o Wobrau’r Selar heno ar raglen Radio Cymru Siân Eleri.

Ar ôl cipio teitl ‘Seren y Sîn’ ddoe, bydd rhaid i Mared wneud bach mwy o le ar y silff ben tân gan iddi hefyd gael ei chyhoeddi fel enillydd gwobr ‘Artist Unigol Gorau’.

Bu’n flwyddyn wych i’r gantores o Glwyd wrth iddi ryddhau ei halbwm cyntaf, Y Drefn, ym mis Awst a derbyn croeso enfawr.

Yr ail wobr i gael sylw heno oedd ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, a’r gantores ifanc Malan ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus.

Baeth Malan i amlygrwydd yn 2020 wrth ryddhau ei senglau unigol cyntaf, ac fe gyhoeddwyd fersiwn cyfyr ardderchog o glasur Edward H Dafis, ‘Smo Fi ishe Mynd’, ganddi hi ac Elis Derby wythnos diwethaf.

Dyma ymateb Malan i’r newyddion:

Bydd enillwyr dau gategori arall yn cael eu datgelu ar Radio Cymru fory sef ‘Cân Orau’ ar ragen Ifan Evans yn y prynhawn, ac yna categori arbennig ‘Gwobr  2020’ ar raglen Lisa Gwilym gyda’r hwyr.