Ailgymysgu traciau Ghostlawns

Mae’r grŵp o Gaerdydd, Ghostlawns, yn rhyddhau fersiynau newydd wedi’u hailgymysgu o dri thrac ddydd Gwener yma, 14 Mai dan yr enw ‘Motorik Remixes’.

Rhyddhawyd albwm cyntaf Ghostlawns, ‘Motorik’, fis Tachwedd diwethaf gyda thraciau fel ‘Ffoi’ ac ‘Y Gorwel’ yn derbyn croeso cynnes.

Er bod union aelodaeth y grŵp yn cael ei gadw’n weddol ddirgel, rydym yn gwybod eu bod i gyd yn gerddorion profiadol sydd wedi chwarae mewn grwpiau sy’n cynnwys Right Hand Left Hand, Gulp, The Gentle Good, Cotton Wolf, Manchuko a Damo Suzuki.

Yn ôl y grŵp maent wedi troi at gyfeillion cerddorol agos er mwyn ailgymysgu tri o draciau’r albwm sef ‘Guppy’, ‘Akademie’ ac ‘Y Gorwel’.

Troi at gyfeillion cerddorol

Y ddeuawd electronig o Gaerdydd, Cotton Wolf, sydd wedi mynd i’r afael a’r trac ‘Guppy’.

“Rydym yn ffans mawr o’u halbyms Ofni a Life in Analogue…” meddai sylfaenydd Ghostlawns, Dewi Parry am Cotton Wolf.

“…cymaint felly nes y byddwch chi’n aml yn gweld un ohonom ni ar y llwyfan gyda nhw wrth iddynt berfformio’n fyw!”

Cynhyrchydd yr albwm, Charlie Francis, sydd wedi ailgymysgu’r trac ‘Akademie’.

“Mae Akademie wedi’i ailgymysgu gan ein mentor a phumed Ghost, Charlie Francis” meddai Dewi.

“Recordiodd Charlie ein halbwm cyntaf Motorik, oedd hynny’n brofiad anhygoel, ac mae wedi bod yn ran o’n taith gerddorol mewn cymaint o wahanol ffyrdd dros y blynyddoedd.”

“Mae Y Gorwel wedi’i ailgymysgu gan ein ffrind annwyl, a hanner [y band] Right Hand Left Hand, Tatatosk (Rhodri Viney). Rydym wedi bod yn ffans mawr ohono ers blynyddoedd, o’i ddyddiau cynnar yn perfformio fel Teflon Monkey a nifer o fandiau eraill yn chwarae gitâr, pedal ddur a hyd yn oed y llif! Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i ailgymysgu cân i ni.”

Gigs ar y gweill

Ar hyn o bryd, mae cynlluniau i Ghostlawns berfformio yn Le Pub, Casnewydd ar 26 Mehefin gyda Right Hand Left Hand a Ratatosk, ac yn Focus Wales ar ddydd Sadwrn 9 Hydref yn Neuadd Goffa Wrecsam.

Bydd y traciau’n cael eu rhyddhau’n ddigidol ddydd Gwener yma, 14 Mai, trwy label Sub Records.