Mae albwm cyntaf Bwca, sy’n rhannu enw’r grŵp, allan ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf heddiw, 29 Ionawr.
Mae’r record allan ar ffurf CD ers mis Tachwedd 2020 ar label Recordiau Hambon.
Er gwaetha’r heriau, mae’r grŵp o’r canolbarth wedi llwyddo i gadw’n brysur yn ystod 2020 gan ryddhau senglau, perfformio gigs, ac ymddangos ar raglenni teledu Lŵp, Heno a Noson Lawen.
Mae’r albwm yn nodi deng mlynedd ers i Steff Rees, sef ffyntman y grŵp, symud i Aberystwyth gyntaf ac mae’r dref ger y lli wedi dylanwadu’n fawr ar themau’r record.