Albwm Bwchadanas i’w ryddhau’n ddigidol

Bydd albwm y grŵp o’r 1980au, Bwchadanas, yn cael ei ryddhau’n ddigidol ddiwedd mis Medi.

‘Cariad Cywir’ oedd enw unig albwm y grŵp ac fe’i rhyddhawyd yn wreiddiol ym 1984.

Ffurfiwyd y grŵp ym Mangor yn y flwyddyn honno gan griw o ffrindiau coleg yn y ddinas. Aelod amlycaf Bwchadanas oedd Siân James, sydd wrth gwrs wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfa unigol fel un o gerddorion gwerin mwyaf llwyddiannus Cymru dros y degawdau ers hynny.

Roedd sawl aelod arall amlwg yn y grŵp hefyd sef Geraint Cynan (Piano), Rhys Harries (gitâr), Gareth Ioan (pibau), Llio Rolant (telyn) a Rhodri Tomos (gitâr).

Roedd sŵn Bwchadanas yn gymysgedd difyr o gerddoriaeth gwerin a roc. Llwyddodd y grŵp i gipio teitl Cân i Gymru 1985 gyda’r gân ‘Ceiliog yn y Gwynt’.

Rhyddhawyd y record ar label Recordiau Sain, a dyma’r albwm diweddaraf o’r archif i Sain ail-ryddhau’n ddigidol dros y misoedd diwethaf.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol ar 24 Medi.

Dyma un o ganeuon yr albwm, ‘Dewin’, yn cael ei pherfformio ar raglen Clang Clwyd ym 1985 – diolch i Ffarout am lwytho i’w sianel: