Bydd cynnyrch Carwyn Ellis & Rio 18 yn cael ei ryddhau yn Yr Almaen ac Awstria am y tro cyntaf y mis hwn.
Mae albwm newydd y prosiect, ‘Mas’, yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 26 Chwefror a bydd yn cael ei ddosbarthu yn Yr Almaen ac Awstria trwy’r label Legere Recordings.
Mae Carwyn eisoes wedi ryddhau dwy sengl fel tameidiau i aros pryd nes yr albwm sef ‘Lawr yn y Ddinas Fawr’ ym mis Ionawr ac ‘Ar Ol y Glaw’ ym mis Tachwedd.