Mae’r grŵp Cwtsh wedi datgelu y byddant yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar 26 Chwefror.
Daeth Cwtsh i amlygrwydd yn ystod 2020 gan ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’ ym mis Mehefin, a’i dilyn gyda’r trac ‘Cymru’ ym mis Medi.
Rhyddhawyd eu trydedd sengl, sef ‘Ein Trysorau Ni’ gan y triawd ym mis Rhagfyr.
Nawr, mae’r grŵp yn barod i ryddhau eu halbwm llawn cyntaf 10 trac ar 26 Chwefror.
Gyda’n Gilydd fydd enw’r albwm ac fe fydd allan ar Bandcamp yn y lle cyntaf, gyda CD i ddilyn wedi i’r cyfnod clo ddod i ben.
Prif drac hyrwyddo’r albwm newydd fydd ‘Tymhorau’.