Albwm cyntaf Danielle Lewis

Bydd yr artist dwy-ieithog o Gei Newydd yng Ngheredigion, Danielle Lewis, yn rhyddhau ei halbwm llawn cyntaf yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

‘Dreaming in Slow Motion’ ydy enw’r albwm fydd allan ar 19 Tachwedd ar label Red Robin Records.

Er ei bod wedi rhyddhau caneuon yn y Gymraeg yn y gorffennol, gan gynnwys yr EP ‘Yn Gymraeg’ yn 2018, dim ond traciau Saesneg sydd ar yr albwm newydd. B

Bydd modd prynu’r record ar ffurf CD a feinyl ac mae modd rhag archebu rhain ar safle Bandcamp Danielle nawr.