Mae’r grŵp amgen o’r gogledd, Hap a Damwain wedi cadarnhau y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ddechrau mis Mai.
‘Hanner Cant’ ydy enw’r record hir fydd allan ar ‘Ddiwrnod y Gweithwyr’, sef 1 Mai, ac mae’n ddilyniant i’r ddau EP a ryddhawyd yn ddigidol gan y grŵp llynedd – ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd ym mis Mai, ac ‘Ynysig #2’ a ryddhawyd fis yn ddiweddarach ym Mehefin 2020.
Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).
Yn briodol iawn o ystyried enw’r casgliad, bydd nifer cyfyngedig o 50 o gopïau CD yn cael eu rhyddhau yn ogystal â’r fersiwn digidol.
Bydd modd prynu’r casgliad ar safle Bandcamp Hap a Damwain.
Dyma sengl ddiwethaf y grŵp, ‘Mam Bach’, a ryddhawyd ddechrau mis Mawrth.