Albwm Gareth Bonello a chymuned Khasi

Mae The Gentle Good wedi rhyddhau albwm newydd sy’n archwilio hanes cenhadol y Cymry yng Ngogledd Ddwyrain India, a’r berthynas gyda’r gymuned frodorol Khasi heddiw.

‘Sai-thañ ki Sur’ (ynganiad – ‘SAI-THAN-KI-SWR’)  neu ‘Plethu Lleisiau’ yn y Gymraeg ydy enw’r casgliad newydd gyda’r Khasi-Cymru Collective ac mae allan ar label Naxos World ers 28 Mai.

Mae’r enw wedi’i ddewis gan Lapdiang Syiem, sef bardd a pherfformiwr o Shillong, prifddinas talaith Meghalaya.

Mae’r albwm yn ffrwyth cydweithio rhwng Gareth Bonello ac artistiaid cynhenid o’r gymuned Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India.

Fe’i recordiwyd yn ninas Shillong ac yn y pentrefi cyfagos i Meghalaya.

Cenhadaeth

Mae’r albwm yn archwilio caneuon gwerin, barddoniaeth, emynau cenhadol, chwedlau a materion hanesyddol a chyfoes sy’n effeithiol ar y cymunedau.

Mae pobl Khasi yn cynrychioli tua 50% o boblogaeth Meghalaya ac yn y frodorol i Ogledd Dwyrain India – ardal sy’n gartref i dros 220 o grwpiau ethnig gwahanol a’r un nifer, os nad mwy, o ieithoedd.

Gwlad o fynyddoedd hardd, rhaeadrau ysblennydd a dyffrynnoedd gwyrddion, ystyr Meghalaya yw ‘Preswylfa’r Cymylau’ yn Sansgrit.

Amddiffynnwyd diwylliant unigryw Khasi gan y tirlun yma am  genedlaethau, gan gynnwys system famlinychol o etifeddiaeth a’r grefydd wreiddiol ‘Ka Niam Khasi’.

Mae’r iaith Khasi yn esiampl brin o iaith Awstoasiataidd yn India, sy’n perthyn yn nes at ieithoedd De Ddwyrain Asia fel Fietnameg a Chmereg.

Rhwng 1841 a 1969, teithiodd cannoedd o Gymry i Fryniau Khasia a Jaiñtia i sefydlu a chynnal cenhadaeth tramor cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig.

Cafodd y genhadaeth Gymreig effeithiau dwfn ar gymdeithas a diwylliant Khasi sy’n dal i’w gweld heddiw.