Albwm i ddathlu Pen-blwydd I KA CHING

Bydd albwm, newydd ‘Gig y Pafiliwn 2021 – Recordiau I KA CHING yn 10 Oed’ yn cael ei ryddhau ar 3 Rhagfyr gan label Recordiau I KA CHING. 

Fel rhan o ddathliadau deng mlwyddiant y label recordiau eleni, daeth rhai o’u prif fandiau ac artistiaid dros y blynyddoedd ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Roedd y perfformiad yn rhan o arlwy ar-lein yr Eisteddfod Amgen nôl ym mis Awst, gyda’r DJ Huw Stephens yn cyflwyno.

Cafodd y cyngerdd ei ddarlledu yn ei gyfanrwydd ar-lein, ac mewn sinemâu ledled y wlad ar y pryd.

Yr artistiaid a fu’n perfformio gyda’r gerddorfa oedd Alys Williams (Blodau Papur), Osian Huw (Candelas), Casi Wyn (Clwb Cariadon), Glain Rhys, Griff Lynch, Mared, Siddi, Ifan Davies (Sŵnami), Joseff Owen (Y Cledrau) a Lewys Wyn (Yr Eira), pob un ohonynt gyda chysylltiad â label I Ka Ching dros y ddegawd ddiwethaf.

“Roedde ni fel criw label recordiau I Ka Ching ar ben ein digon i gael dathlu ein pen blwydd yn ddeg oed mewn gig mor uchelgeisiol â hyn, sy’n clymu deg o artistiaid gorau’r sin gerddoriaeth gyda Cherddorfa’r Welsh Pops” meddai Branwen Williams o I Ka Ching.

“Mae gigs y Pafiliwn wedi dod yn ddigwyddiadau eiconig, ac roedd curadu un yn arbennig i artistiaid I Ka Ching yn sicr yn teimlo fel dathliad a hanner.”

Mae dal modd gwylio’r cyngerdd yn ei gyfanrwydd ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wrth gwrs, bellach bydd y traciau ar gael ar CD ac ar y llwyfannau ffrydio cerddoriaeth arferol.

Dyma’r gig: