Albwm Mered Morris allan ar feinyl

Mae’r cerddor profiadol, Mered Morris, wedi rhyddhau fersiwn feinyl o’i albwm diweddaraf, ‘Galw Fi’n Ôl’.

‘Galw Fi’n Ôl’ ydy ail albwm unigol y gitarydd a’r canwr-gyfansoddwr sydd yn y gorffennol wedi chwarae gyda Rhiannon Tomos a’r Band, Meic Stevens, Bwchadanas a Sobin a’r Smaeliaid. 

Mae fersiwn CD o’r record hir eisoes wedi’i ryddhau ers mis Ebrill 2021, ond bu oedi yn nyddiad rhyddhau’r fersiwn feinyl o ganlyniad i broblemau cynhyrchu feinyl byd eang diweddar.  Mae’r casgliad yn ddilyniant i albwm unigol cyntaf Mered, ‘Syrthio’n Ôl’ a ryddhawyd llynedd. 

Mae’r albwm yn mynd i’r afael a nifer o bynciau mawr y dydd. Mae’n gofnod o brofiadau a theimladau Mered dros y flwyddyn ofnadwy ddiwethaf. Mae’n cynnwys caneuon sy’n trafod unigrwydd yng nghefn gwlad yn ystod y cyfnod clo, a chân sy’n talu teyrnged i’n gweithwyr allweddol. 

Ymysg y traciau hefyd mae dwy gân sy’n sôn am yr argyfwng mawr arall sy’n wynebu’r byd, sef newid hinsawdd. Mae teitl-drac y casgliad hefyd yn trafod pwnc amlwg iawn o’r newyddion – cafodd ei ysgrifennu ar ôl i Mered glywed am lofruddiaeth George Floyd yn America. 

Mae arddull gerddorol yr albwm yn amrywio o Americana i Jazz-ffync, Blŵs a Roc. 

Nid Mered ydy’r unig gerddor cyfarwydd a phrofiadol ar yr albwm newydd – mae wedi troi at Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Gwyn Jones (Maffia Mr Huws) a John Hywel Morris (Dorcas) fel offerynwyr ar y caneuon. Mae Mark Dunn hefyd yn cyfrannu ar y gitâr bedal ddur a Steve Roberts yn canu llais cefndir ar un gân.  

Nid yw Mered yn un i orffwys ar ei rwyfau, a dywed ei fod eisoes wrthi’n recordio ei albwm nesaf fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Rhywun yn Rhywle’. Yn ôl y cerddor mae mwyafrif y gwaith recordio eisoes wedi’i gwblhau ac mae’n bwriadu rhyddhau’r record ym mis Mai 2022.