Albwm newydd Tecwyn Ifan allan heddiw

Bydd un o hoelion wyth amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, Tecwyn Ifan, yn rhyddhau ei albwm newydd ddydd Mercher yma, 29 Medi.

Enw’r albwm newydd ydy Santa Roja ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Sain. Yn ôl y label mae’r record newydd yn gasgliad o ganeuon am Gymru, am frawdgarwch, am heddwch ac am obaith.

Mae Tecwyn Ifan yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru ers y 1970au. Ffurfiodd ei fand cyntaf, Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Dâf.

Ar ôl mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor fe ffurfiodd y grŵp Ac Eraill gyda thri cherddor amlwg arall sef Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Chwalodd y grŵp ym 1975, ac fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio fel artist unigol yn fuan wedi hynny.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Y Dref Wen ym 1977 – record sy’n cael ei chydnabod fel un o glasuron mwyaf yr iaith Gymraeg. Daeth cyfres o recordiau hir i ddilyn ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au, ac mae wedi rhyddhau deg o albyms hyd yma.

Er hynny, Santa Roja fydd ei record hir gyntaf ers Llwybrau Gwyn a ryddhawyd yn 2012.

Fe gafwyd blas o’r albwm yn gynharach yn yr haf ar ffurf y sengl ‘Gweithred Gobaith’ a ryddhawyd ar 2 Awst. Mae geiriau’r trac hwnnw wedi’u hysgrifennu gan y Prifardd Mererid Hopwood.

Mae’r albwm wedi’i gynhyrchu gan Osian Huw Williams ac yn cynnwys nifer o gerddorion gwadd megis Aled Wyn Hughes (bas), Pwyll ap Siôn (piano), Elan Rhys (llais cefndir) ac Osian Williams ar y gitâr a’r drymiau.

Dyma un o draciau’r albwm, ‘Pentrebedw’: