Albwm Papur Wal i’w ryddhau ar feinyl gwyn

Mae label Recordiau Libertino wedi datgelu y bydd albwm cyntaf Papur Wal, ‘Amser Mynd Adra’ yn cael ei ryddhau ar ffurf feinyl gwyn.

Mae’r albwm yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 8 Hydref, ond oherwydd oedi mewn amseroedd cynhyrchu feinyl, ni fydd y fersiwn feinyl ar gael nes mis Ebrill 2021.

Er hynny mae modd rhag-archebu’r fersiwn feinyl ar wefan Recordiau Libertino nawr. Mae’r Selar wedi archebu’n barod – peidiwch oedi!

Dyma fideo ardderchog y sengl ardderchog, ‘Llyn Llawenydd’, fydd hefyd ar yr albwm: