Bydd albwm newydd Phil Gas a’r Band yn cael ei ryddhau ar ddydd Mercher 27 Hydref,
‘O’r Dyffryn i Dre’ ydy enw record hir ddiweddaraf y band poblogaidd o Arfon, a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Aran.
Fel pob band arall, mae’r pandemig wedi effeithio tipyn ar gynlluniau Phil Gas a’r Band ac mae llwybr ‘O’r Dyffryn i Dre’ wedi bod yn un troellog iawn.
Rhyddhawyd albwm cyntaf y grŵp, ‘O Nunlla’, yn 2018 – casgliad oedd yn cynnwys y caneuon poblogaidd ‘Seidr ar y Sul’ ac ‘Yncl John, John Watkin Jones’.
Ers hynny mae’r band wedi rhyddhau dwy sengl – y gyntaf o’r rhain oedd ‘Mesen Fach’ yn 2019 i ddathlu dyfodiad Tudur Huws Jones i’r band, ac yna’r sengl Nadolig ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ fis Rhagfyr diwethaf.
Er hyn roedd llawer iawn o ddeunydd arall yn cael ei baratoi, gyda’r band yn cysylltu dros y we ac yn anfon ‘demos’ i’w gilydd dros y cyfnod clo.
Erbyn hyn, mae’r ddwy sengl yn cael eu rhyddhau ar CD am y tro cyntaf, ynghyd ag wyth o draciau newydd sbon.
“Mae wedi bod yn frwydr cael hwn i’r lan” meddau Phil.
“Ychydig iawn sydd wedi recordio gyda ni i gyd yn y stiwdio’r un pryd, ac roedd y record hir ddiwethaf bron yn hollol ‘fyw’. Ond mae yna ddatblygiad mawr wedi bod yn sŵn y band a chyfraniad Tudur fel cyfansoddwr yn un gwerthfawr iawn i ni.”
Daw geiriau un o’r caneuon gan y Prifardd Meirion MacIntyre Huws – ‘Dwi’n ifanc dyna pam’ tra bod y geiriau ar gyfer ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’ yn un o gerddi Mynyddog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer caneuon gan Phil yn dod o rywle’n agosach i’w gynefin ac mae ‘Cân i Mel’ yn esiampl arall o hynny. Yn deyrnged arall i un o gymeriadau mwyaf Dyffryn Nantlle.