Mae CD cyntaf eiconig y grŵp hip-hop, Tystion, wedi’i ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mai.
Rhyddhawyd ‘Rhaid i Rywbeth Ddigwydd’ yn wreiddiol ym 1997 ar label annibynnol y grŵp, Fitamin Un, a bellach mae ar gael yn yr holl fannau digidol arferol diolch i Ffarout.
Mae Ffarout yn adnabyddus am ei sianel YouTube sydd wedi bod yn cyhoeddi deunydd archif cerddoriaeth Gymraeg ar-lein ers sawl blwyddyn, ond dyma’r cynnyrch cyntaf iddynt ryddhau’n ffurfiol fel label.
Ffurfiwyd Tystion ym 1995 gan MC Sleifar (sef Steffan Cravos) a G Man (sef Gruff Meredith). Er i Gruff adael y grŵp yn ddiweddarach i ganolbwyntio ar ei brosiect unigol, MC Mabon, bu i’r aelodau newydd MC Chef (Gareth Williams), a Clancy Pegg ymuno â’r grŵp ynghyd â nifer o gerddorion achlysurol eraill.
Rhyddhaodd Tystion rai casetiau i ddechrau gan gynnwys albyms ‘Dyma’r Dystiolaeth’ (1995) a ‘Datsyn’ (1996), ond llwyddodd y grŵp i dorri trwyddo o ddifrif wrth ryddhau ‘Rhaid i Rywbeth Ddigwydd’ ar ffurf CD ym 1997.
Er bod rhai artistiaid a cherddoriaeth hip-hop wedi ymddangos yn y Gymraeg cyn hyn, roedd Tystion yn cael eu gweld fel arloeswyr yn y genre ac maen nhw wedi dylanwadu ar y llinach hir o fandiau ac artistiaid hip-hop Cymraeg sydd wedi dod wedyn.
Yn ôl Ffarout, mae’r albwm ar gael ar y prif lwyfannau ffrydio digidol gan gynnwys Spotify a Deezer, ond nid ar Apple Music am y tro oherwydd rhesymau technegol.