Albyms Cymraeg ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae tri o recordiau hir iaith Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr fer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol ers 2011, gyda phanel o bobl weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru’n dewis rhestr fer ac enillwyr.

Mae 12 o albyms wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, ac yn eu mysg mae’r recordiau Cymraeg ‘Mas’ gan Carwyn Ellis a Rio 18, ‘Cwm Gwagle’ gan Datblygu’ a ‘Bywyd Llonydd’ gan Pys Melyn.

Yr artistiaid eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydy Afro Cluster, The Anchoress, El Goodo, Gruff Rhys, Gwenifer Raymond, Kelly Lee Owens, Mace The Great, Novo Amor a Private World.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei ddatgelu’n hwyrach yn y flwyddyn.