Annwn – prosiect newydd Lleuwen ac Ed

Mae prosiect newydd dau o gerddorion amlycaf Cymru yn lansio eu sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 28 Mai.

Annwn ydy enw band / deuawd newydd Lleuwen Steffan ac Ed Holden (Mr Phormula) ac enw eu sengl gyntaf ydy ‘Eto Fyth’.

Bu i Lleuwen gyd-weithio gydag Ed ar albwm diweddaraf Mr Phormula, Tiwns, a ryddhawyd fis Tachwedd gan gyfrannu at y trac ‘Normal Newydd’. Mae’r gân wedi dod yn dipyn o anthem ar gyfer y cyfnod diwethaf, a dyma oedd egin partneriaeth newydd y ddeuawd.

“Ar ôl i ni greu ‘Normal Newydd’, ddaru ni benderfynu creu mwy a rhoi enw i’r prosiect” meddai Lleuwen wrth Y Selar wrth i ni ei holi am y band newydd.

Ac mae Ed yn cytuno mai profiad da o gydweithio gyda’i gilydd yn y gorffennol sydd wedi arwain at ffurfio Annwn.

“Dwi’n nabod Lleuwen ers blynyddoedd, di gweithio llwyth efo hi yn y gorffennol ac o hyd wedi mwynhau cydweithio a chreu miwsic amgen efo hi” meddai Ed wrth Y Selar.

“Do’n i ddim yn disgwyl i ‘Normal Newydd’ gael cymaint o sylw, anhygoel!!

Felly wnaethon ni ddechra’ trafod ychydig mwy am y posibilrwydd o ella creu prosiect unigryw, gwahanol. Ar ôl trafod a datblygu syniadau mi wnaethon ni benderfynu symud ymlaen efo’r prosiect gan roi’r teitl ‘Annwn’ [sef ‘Otherworld’].”

“Y bwriad ydy bod ni’n creu cerddoriaeth hollol wahanol, ond gan blethu gwreiddiau a steil y ddau ohona ni ynddo fo.”