Ar Dâp Yr Eira

Mae darllediad diweddaraf cyfres Ar Dâp wedi’i gyhoeddi ar-lein, gydag Yr Eira yn perfformio’n fyw y tro hwn.

Cyfres o setiau ‘byw’ gan artistiaid amrywiol ydy Ar Dâp, sy’n cael ei ddarlledu ar lwyfannau ar-lein Lŵp, S4C.

Mae’r gyfres eisoes wedi darlledu setiau gan 9Bach, Yr Ods a 3 Hŵr Doeth yn gynharach yn y flwyddyn, ac fe gyhoeddwyr y bennod ddiwethaf ddiwedd mis Medi gyda’r grŵp Cymraeg o Sheffield, Sister Wives yn perfformio.

Mae’r bennod ddiweddaraf o’r gyfres ar gael i’w gwylio ar-lein ers nos Fercher diwethaf, ac yn hon rydan ni’n gweld Yr Eira’n perfformio yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Dyma sesiwn Ar Dâp Yr Eira: