Artist electronig i ryddhau cerddoriaeth cyntaf

Bydd prosiect electronig newydd o Ynys Môn yn rhyddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf ar 22 Ionawr.

IsoPHeX ydy enw prosiect newydd gŵr 19 oed o’r enw Cian Owen o Langefni, a ‘Doppelgänger’ ydy enw ei sengl gyntaf.

Recordiau Cae Gwyn fydd yn rhyddhau’r sengl newydd yn ddigidol ar 22 Ionawr a Cai sydd wedi recordio a chynhyrchu’r trac ei hun. Yn ôl y label, mae IsoPHeX yn ‘creu electronica o’r radd flaenaf’.

Mae’r trac wedi’i mastro gan Stuart Kettridge o South East Studios, ac mae gwaith celf y sengl gan Jordan Warren.

Dyma flas o’r sengl: