Mae criw o gerddorion Cymraeg amlwg wedi dod ynghyd i recordio a rhyddhau fersiwn newydd o gân sy’n glasur o’r llwyfan sioeau cerdd Cymraeg.
Pan aeth Cwmni Theatr Maldwyn ati i lwyfannu’r sioe ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ ym 1988, y bwriad oedd dal ysbryd safiad gweithwyr Llanidloes dros egwyddorion y Siartwyr ym 1839.
Dim ond am bum diwrnod y parodd y gwrthryfel hanesyddol hwnnw, ond roedd yn ddechrau ar broses a newidiodd ddemocratiaeth a hawliau gweithwyr gwledydd Prydain am byth.
Cân enwocaf y sioe gerdd boblogaidd oedd ‘Ar Noson Fel Hon’, ac mae’r gân honno’n sail i’r fersiwn newydd sy’n cael ei rhyddhau ar 26 Ebrill.
‘Mae’r dydd wedi dod / Let us be free’ ydy enw’r fersiwn newydd sy’n cynnwys cyfraniadau gan yr artistiaid Bwncath, Jalisa, Elis Derby, Ifan Pritchard o’r band Gwilym, Betsan a Martha Ceiriog, Gwenan Gibbard, Gwilym Bowen Rhys ac Osian Huw Williams.
Wrth nesu at etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai, trawyd y cerddorion fod y dyhead am Ryddid i Gymru, a chaniatáu’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed, yn adleisio llawer iawn o ddyheadau gweithwyr Llanidloes yn 1839. Mae geiriau’r gân wreiddiol wedi eu haddasu i adlewyrchu hynny.
Daeth y criw o gerddorion ynghyd yn Stiwdio Sain ar 12 Ebrill, gan ofalu cadw pellter priodol i recordio’r fersiwn newydd o’r glasur dan oruchwyliaeth Osian Huw Williams (Candelas) sydd wrth gwrs yn fab i sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn, y diweddar Derec Williams.
Y canlyniad ydy cân wefreiddiol i godi’r to, ac i godi’r gwres ar gyfer etholiad a all fod yn allwedd bwysig i Gymru’r dyfodol.
Mae fideo, sy’n cynnwys deunydd archif a chlipiau o’r stiwdio wrth recordio, i gyd-fynd â’r sengl eisoes wedi’i ryddhau ar ddydd Gwener 23 Ebrill.